OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1597 (Cy. 185) (C.61)
adEILADU, cymru
Gorchymyn Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
I’r graddau y mae’r rheiny’n rhychwantu Cymru a Lloegr, mae’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau Rhan 8 o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p.20) (“Deddf 2009”) o ran contractau adeiladu sy’n ymwneud â gwneud gwaith adeiladu yng Nghymru. Nid yw’n cychwyn y darpariaethau hyn o ran contractau adeiladu eraill sy’n cael eu cychwyn gan orchmynion cychwyn ar wahân.
Mae Rhan 8 o Ddeddf 2009 yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p.53) (“Deddf 1996”).
Dyma’r darpariaethau yn Rhan 8 o Ddeddf 2009 y deuir â hwy i rym gan y Gorchymyn hwn (lle bo’n gymwys o ran Cymru):
· adran 138 sy’n rhoi pŵer newydd sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru anghymhwyso unrhyw rai neu’r cyfan o ddarpariaethau Rhan 2 o Ddeddf 1996;
· adran 139 sy’n dileu’r cyfyngiad gwreiddiol a oedd yn cyfyngu Rhan 2 i gontractau ysgrifenedig;
· adran 140 sy’n cyflwyno darpariaeth i hwyluso cywiriadau i wallau clerigol neu wallau teipograffyddol mewn penderfyniad gan ddyfarnwr;
· adran 141 sy’n peri bod cytundeb ynghylch dyrannu costau dyfarnu yn aneffeithiol, oni bai bod amodau penodol yn gymwys;
· adran 142 sy’n rhoi sylw i gwestiwn peri bod taliadau o dro i dro o dan gontract adeiladu yn amodol ar rwymedigaethau o dan gontract arall, a chwestiwn peri bod y dyddiad y bydd taliad yn ddyledus yn dibynnu ar sicrhau bod y talwr yn rhoi hysbysiad o’r swm y mae’n bwriadu ei dalu;
· adran 143 sy’n diwygio adrannau 109 a 110 o Ddeddf 1996 ac sy’n cyflwyno darpariaethau ynghylch rhoi hysbysiadau gan y talai;
· adran 144 sy’n cyflwyno gofyniad statudol bod rhaid talu symiau a bennir yn yr hysbysiadau hyn;
· adran 145 sy’n diwygio adran 112 o Ddeddf 1996 sy’n ymwneud â hawl contractwr i roi’r gorau i weithio os nad yw’r contractwr wedi’i dalu.
Mae erthygl 3 yn dwyn i rym y darpariaethau yn Rhan 8 o Ddeddf 2009, a hynny ar 1 Hydref 2011.
NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae Gweinidogion Cymru wedi dwyn i rym adran 138 o Ran 8 o Ddeddf 2009 i’r graddau y mae’n rhychwantu Cymru a Lloegr, gan Offeryn Statudol 2011/1514, at y diben o alluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion.
I’r graddau y maent yn rhychwantu Cymru a Lloegr, mae’r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2009 wedi’u dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Darpariaeth |
Dyddiad Cychwyn |
Rhif yr O.S |
Adran 69 (rhan) |
25.11.2009 |
2009/3087 |
Adran 71 |
25.11.2009 |
2009/3087 |
Adran 84 |
25.11.2009 |
2009/3087 |
Adran 86 |
25.11.2009 |
2009/3087 |
Adran 87 |
25.11.2009 |
2009/3087 |
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2009 wedi’u dwyn i rym i’r graddau y maent yn rhychwantu Cymru a Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy’r Offerynnau Statudol a ganlyn: O.S. 2009/3087, O.S. 2009/3318 ac O.S. 2010/881.
Gweler hefyd adran 148 ynglŷn â’r darpariaethau a ddaeth i rym wrth i Ddeddf 2009 gael ei phasio.
offerynnau Statudol CYMRU
2011 Rhif 1597 (Cy. 185) (C.61)
adEILADU, cymru
Gorchymyn Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011
Wedi’i wneud 28 Mehefin 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 149(1) o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf
Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (Cychwyn
Rhif 2) (Cymru) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009.
Rhychwant a chymhwyso’r darpariaethau sy’n dod i rym
2. Mae Rhan 8 o’r Ddeddf yn dod i rym i’r graddau y mae’n rhychwantu Cymru a Lloegr o ran contractau adeiladu sy’n ymwneud â gwneud gwaith adeiladu yng Nghymru yn unol ag erthygl 3.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Hydref 2011
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar 1 Hydref 2011—
(a) adran 138 at yr holl ddibenion eraill;
(b) adrannau 139 i 145.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2011